[ Neidio i Gynnwys ]

Gweminar Cynnal Cydraddoldeb ac Urddas yn y gwaith

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae'r weminar hon yn edrych ar Gynnal Cydraddoldeb ac Urddas yn y gwaith, gyda’r nod o amlinellu sut y gall achosion o wahaniaethu godi, ynghyd ag amlinellu’r cyfrifoldebau sydd gan gyflogwyr.

 

Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Mae hyrwyddo cydraddoldeb ac urddas yn y gwaith yn hanfodol i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol.
  • Y ffyrdd y gall cyflogwyr gyflawni hyn drwy weithredu polisïau ac arferion sy’n sicrhau triniaeth deg, cyfleoedd cyfartal a pharch i’r holl weithwyr, waeth beth yw eu cefndir na’u priodoleddau.
  • Byddwn yn edrych ar wahaniaethu yn y gweithle, beth sy’n creu gwahaniaethu, pryd y gall hyn ddigwydd a’r gwahanol fathau o Wahaniaethu. Bwlio ac Aflonyddu a’r gwahanol fathau, ynghyd â’r priodoleddau gwarchodedig a beth yw cyfrifoldebau a rhwymedigaethau eich cyflogwyr dan ddeddf Cydraddoldeb 2010.
  • Mae’n bwysig meithrin diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant, lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Gall rhaglenni hyfforddiant, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a chyfathrebu rheolaidd helpu i atgyfnerthu’r gwerthoedd hyn a hyrwyddo amgylchedd gwaith lle mae gweithwyr yn teimlo cysylltiad a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Byddwn hefyd yn ystyried arddulliau rheoli a ph’un a ydynt yn helpu neu’n rhwystro, yn gosod enghraifft dda, yn meithrin awyrgylch cynhwysol yn y gweithle ac yn darparu arweiniad cywir a chefnogaeth i ddatblygu gweithle cadarnhaol.

 

Dyddiadau

5 Mehefin 2024, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

 

 

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan