[ Neidio i Gynnwys ]

Gweminar Recriwtio Cynhwysol a Chynefino

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae'r weminar hon yn edrych ar recriwtio cynhwysol a chynefino, gyda'r nod o sicrhau bod eich strategaeth recriwtio yn cyd-fynd â bod yn gyflogwr cynhwysol.

 

Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Chwalu mythau, mae nifer o fythau ynghylch rhwystrau rhag creu gweithlu cynhwysol, byddwn yn defnyddio realiti i herio’r myth.
  • Hysbysebu'r swydd a denu'r bobl gywir, cynnwys hysbysebion swyddi amrywiol, denu ymgeiswyr, gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau Amrywiaeth ac ystyried sut i ddatblygu proses geisiadau hygyrch.
  • Dewis yr ymgeiswyr cywir, defnyddio proses sgrinio dall gyda CVs ymgeiswyr, gwahodd i gyfweliad, cyfweliadau strwythuredig, paneli cyfweld amrywiol, gwneud cynnig swydd, gwiriadau hawl i weithio, gwiriadau DBS.
  • Cynnal, cefnogi a datblygu tîm amrywiol, cyfnod sefydlu, diwylliant ac amgylchedd gweithle a gweithio gartref, cynnydd, datblygiad a hyfforddiant.
  • Hyrwyddo cynhwysiant yn y gweithle drwy bolisïau EDI, addewid Cydraddoldeb a’r cynlluniau Mynediad at Waith a Hyderus o Ran Anabledd.

Dyddiadau

22 Mai 2024, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan