[ Neidio i Gynnwys ]

Beth ydy nhw?

Mae cymhorthfa arloesi yn ymgynghoriad cyfrinachol rhwng busnes a phanel sy'n cynnwys aelodau o Gymuned Cymorth Arloesi Busnes y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Diben y cymorthfeydd yw cynorthwyo cwmnïau i gael gafael ar gyllid, gwella prosiectau ymchwil a datblygu a masnacheiddio eu canlyniadau. Mae'r ymgynghoriadau hyn yn 45 munud o hyd, ac maent wedi neilltuo amser i dderbyn adborth gan y panel. Disgwylid i gwmni cyn cychwyn neu newydd cychwyn i gael Cynllun Busnes mewn lle. Bwriedi’r helpu sefydliadau â darpar prosiectau ar TRL 3-8. Gweli’r yma am mwy o wybodaeth ar TRL.

Pam bod yn bresennol?

Mae Cymorthfeydd Arloesi yn rhoi cyfle i gael gafael ar gyngor ac arbenigedd busnes gan aelodau sefydledig o'r Gymuned Cymorth Arloesi Busnes sydd wedi'u teilwra i'ch busnes. Yn benodol, gall aelodau'r panel gynnig gwybodaeth ynghylch pa opsiynau ariannu sydd fwyaf addas i'ch busnes, a phwy fyddai orau i gysylltu â hwy. Mae adborth gan y rhai sydd wedi bod yn bresennol o'r blaen yn dangos sut maent wedi:-

  • elwa o gyfleoedd rhwydweithio sy'n deillio o'r gymhorthfa
  • cael cyfle i wirio eu cynigion busnes
  • cael mwy o ymwybyddiaeth am wahanol gyfleoedd busnes
  • cael gafael ar gymorth wedi'i deilwra.

 

Pryd mae'r cymorthfeydd?

Cynhelir Cymorthfeydd Arloesi Cyffredinol fel arfer bob mis - er y gellir cynnal cymorthfeydd ychwanegol yn dibynnu ar y galw.  Cynhelir Cymorthfeydd Arloesi Arbenigol i gefnogi cystadlaethau neu themâu eraill hefyd os oes galw amdanynt.

 

Gellir cofrestru ar gyfer cymorthfeydd drwy Digwyddiadur Busnes Cymru

Trefnydd y digwyddiad

Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom


03000254554
E-bost | Gwefan